Darlledu: Cam nesaf datganoli
Bubble — By Ieuan Wyn Jones AM on August 4, 2010 6:59 am
Mae arweinydd Plaid yn credu bod hi'n amser am newidiadau mawr ar gyfer cyfrifoldebau dros darlledu yng Nghymru
Mae’r wythnos diwethaf wedi dangos dau beth yn glir i ni: pa mor hanfodol yw darlledu i fywyd y genedl a pha mor ddiffygiol yw’r oruchwyliaeth ddemocrataidd drosto yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae newid sylweddol wedi digwydd i un o gonglfeini ein diwylliant ni, sef S4C, ac mae rhan fwyaf o’r cyhoedd, sydd yn talu, gwylio ac wedi brwydro dros y sianel, yn y tywyllwch ynglyn a be sy’ wedi digwydd a phaham fod y Prif Weithredwraig wedi gadael ei swydd. Ac yn wir, yngl?n â beth sy’n digwydd nawr – yn enwedig yn wyneb y toriadau sydd yn wynebu’r sianel dan law’r Llywodraeth yn Llundain.
Ond beth bynnag yw cefndir yr helyntion presennol, a’r drafodaeth am safonau mewn darlledu, a hithau’n ddeng mlynedd ar hugain ers y frwydr i sefydlu’r Sianel mae’n hanfodol ein bod ni’n gwrthsefyll unrhyw ymgais i wanhau neu i dorri nôl ar y ddarpariaeth deledu drwy’r Gymraeg. Mae’n rhaid i ni weld digwyddiadau’r wythnos ddiwethaf fel cyfle i gryfhau’r gwasanaeth ac nid ei lastwreiddio.
Cyn i mi drafod goblygiadau’r digwyddiadau hyn yn fanwl, gaf i fwrw golwg dros ddarlledu a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan esbonio pam ein bod ni yn y Blaid yn teimlo fod y maes hwn o’r pwys mwya’ ar gyfer etholiadau nesa’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru nesa’.
Mae gen i dri phwnc;
Rwyf i, yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi bod yn adolygu holl ystod gweithgarwch y Llywodraeth i ddatblygu, cefnogi a chyfoethogi ein heconomi yn y flwyddyn aeth heibio. Fel rhan o’r gorchwyl hwnnw, gofynnais i’r Athro Ian Hargeaves gynnal adolygiad o’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru, a gwaith y Llywodraeth i’w chefnogi. Mae adroddiad yr Athro Hargreaves, sydd wedi’i gymeradwyo gan y Llywodraeth, yn tanlinellu’r ról hanfodol mae darlledu yn chwarae o fewn y sector fel sbardun i fusnes Cymru; fel ffenest siop i Gymru dros y byd, ac fel nod diwylliannol gwerthfawr ynddo’i hunan.
Yn fwy nag ymron unrhyw weithgaredd economaidd arall, mae darlledu yn dangos y fath o genedl ydych chi. Mae’n ddrych ar ein cyflwr cenedlaethol. Os felly, rydym ar hyn o bryd yn genedl ddrysiedig!
Ceir gwariant o tua £300 miliwn ar hyn o bryd ar y diwydiannau creadigol bob blwyddyn yng Nghymru. Mae tua £250 miliwn o hwn yn deillio o wariant y BBC ac S4C a’r gweddill yn dod o arian y Llywodraeth. Mae Hargreaves yn ei gwneud hi’n glir felly fod darlledu – a mi ‘roedd yn gweld S4C yn allweddol yn hyn o beth oherwydd ei gwaith comisiynu gan gwmniau annibynnol – yn yrriant hanfodol i sector bwysig i economi Cymru.
Gaf i ddatgan yn awr i mi gytuno’n llwyr a’i gasgliadau ef, a dyna pam rwyf wedi sicrhau fod y diwydiannau creadigol yn un o chwe phrif sector o dan y rhaglen diwygio economaidd newydd. Ond mae myfyrio uwchben adroddiad Hargreaves wedi dod a dau gasgliad arall i’m meddwl hefyd.
Yn gyntaf, fod cyfran sylweddol o’r gwariant hwn y tu hwnt i reolaeth a dylanwad Llywodraeth Cymru. Felly dyma adnabod, yn annibynnol, faes sydd yn hanfodol i’n hesblygiad ni fel cenedl a gweld bod ein gafael arno ar yr un pryd yn un gwan iawn. ‘Dydy S4C ddim wedi’i datganoli a ‘dydy’r BBC ddim yn atebol i bobl Cymru am y ffordd y mae’n dosbarthu a gwario arian y drwydded yng Nghymru.
Yn ail, ac yn fwy positif, mae’r gwariant hwn – ar hyn o bryd o leia’ – yn ddiogel o dan ddeddfwriaeth Brydeinig, sydd yn gosod yn gadarn yr arian a ddyrennir i S4C a’r BBC. Ond – ac mae’n Ond mawr – mae’r ail ddamcaniaeth o dan ymosodiad eisoes gan y Llywodraeth newydd yn San Steffan, sydd yn amlwg yn chwilio am gocynau hitio rhwydd ar gyfer toriadau llym. A pha well cocynau na S4C, sydd yn nonsens i ddarllenwyr Daily Mail-aidd; a’r BBC yn wynebu toriadau gyda thorri nôl ar yr arian a ddaw drwy’r drwydded deledu?
Mae’r cyfan yn golygu un peth. Oni weithredir yn fuan, mae’n bosib y byddwn yn gweld erydiad ein sefydliadau darlledu Cymru a bydd pawb yn y genedl yn dlotach o’r herwydd.
Nid gor-ddweud yw hyn. Mae adroddiad Hargreaves yn nodi:
Heb S4C, mae’n bosib na fyddai gan Gymru gwmniau cynhyrchu teledu annibynnol o gwbl.
Yn yr un modd, mae bwriadau’r BBC i sefydlu “pentre’ drama” yng Nghaerdydd yn werth rhwng £17 a £58 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, gan ddibynnu ar union natur y datblygiad. Mae gwerth economaidd sylweddol i Gymru yn deillio o ddarlledu a bydd yn rhaid brwydro i gadw’r diwydiant yn ffynnu. Mae darlledu yn ganolbwynt i’n rhaglen o ddiwygio’r economi ni fel Llywodraeth a bydd yn aros felly yn rhan o faniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2011.
Trof yn awr at ran darlledu yn ein bywyd diwylliannol ni. I genedl fechan yn y byd modern, mae cyfraniad darlledu i’n bywyd diwylliannol yn amhrisiadwy. Mae’n anodd i rywun fel fi, sydd yn cofio berw a bwrlwm trafod darlledu yng Nghymru yn ystod y 70au a’r 80au, i gredu fod lefel trafod y cyfryngau heddiw mor drychinebus o wael. Mae’n bosib i’r ffrwydriad yn y dewis o sianelau a chyfryngau ym maes darlledu hefyd wedi ffrwyno’r drafodaeth. Mae’n bosib fod sefydlu’r Cynulliad wedi disodli darlledu fel y maes lle bu’r brwydro dros y Gymraeg a hunaniaeth Cymru. Beth bynnag am y rhesymau, y ffaith yw bod y drafodaeth genedlaethol wedi gwanychu a gwasgaru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n bwriadu ei rhoi hi yn ôl yng nghanol paratoadau’r Blaid ar gyfer yr etholiadau Cynulliad ac yng nghanol ystyriaethau’r Llywodraeth nesaf.
Crebachu mae’r dewis drwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru. Mae darlledu cenedlaethol Cymru (rhanbarthol yng ngeiriau’r darlledwyr) wedi dirywio rhwng 2005 a 2009. Ar BBC Cymru mae’r oriau rhanbarthol wedi gostwng o 824 awr i 696. Yn arswydus, mae oriau newyddion a materion cyfoes wedi cwympo o 500 i 420. Yn ogystal â hynny rhwng 2005 a 2009 roedd gwariant y BBC ar raglenni Saesneg eu hiaith yng Nghymru wedi gostwng o bron i £26.8 miliwn o bunnau i £23.6 miliwn – ar adeg pan roedd y ffi drwydded yn codi. Ac roedd y diffyg blaenoriaeth a roddwyd gan y BBC i’r cenhedloedd datganoledig yn eu dogfen strategol ddiweddar hefyd yn destun pryder. Gwyddoch fod pethau yn waeth o lawer gydag ITV Cymru, lle mae’r ddarpariaeth ranbarthol wedi gostwng o 32% dros y cyfnod hwn, gyda’r rhaglenni ar wahân i newyddion a materion cyfoes bron yn diflannu- o 169 awr y flwyddyn i 35 awr.
Er bod y stori yn wahanol gyda S4C, gyda chynydd yn y rhaglenni Cymraeg o 27%; rhaglenni plant llwyddiannus Cyw, a chyflwyno Clirlun, dydy’r darlun cyfan ddim yn un hapus o bell ffordd. Mae S4C wedi colli gwylwyr wrth i’r chwyldro digidol sgubo ymaith hen ddulliau gwylio. A nawr, gyda digwyddiadau’r wythnos ddiwetha’, mae’n edrych yn debyg fod anghytuno sylfaenol ynglyn â’r ffordd ymlaen y tu fewn i’r gorfforaeth.
Oherwydd nad oes fforwm clir i drafod S4C yn y drefn ddemocrataidd yng Nghymru-lle gellir cael scriwtini cyhoeddus-mae’r trafod ynglyn a be ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf ac yn wir ynglyn a pherfformiad y sianel yn gyffredinol – wedi digwydd mewn erthyglau papur newydd neu ddarllediadau newyddion a hynny ar sail pob math o sibrydion. Dydy hyn ddim er lles hygrededd nac yn wir cynulleidfaoedd y Sianel.
Er gwaetha’r newidiadau sylweddol iawn, iawn a fu ym maes darlledu, nid oes adolygiad cynhwysfawr allanol wedi bod o genhadaeth S4C ers rhyw chwe blynedd. Y canlyniad yw bod llawer o’r trafod a dyfalu ar y sianel yn awr yn digwydd mewn hinsawdd o ddiffyg gwybodaeth a niwl deallusol yngl?n â bwriadau’r Sianel. Mae’r un yn wir i raddau helaeth am strategaeth y BBC yng nghyd-destun y diffyg trafod a dadansoddi sy’n digwydd yng Nghymru a’r diffyg atebolrwydd.
Ar fater y BBC mae Sefydliad Materion Cymreig wedi galw am chwistrelliad unionsyth o £5 miliwn i mewn i BBC Cymru gan y gorfforaeth Brydeinig er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg mewn rhaglenni Saesneg amrywiol, megis dychan a drama. Mae’r Sefydliad yn nodi fod newyddion, materion cyfoes a chwaraeon at ei gilydd yn 85% o holl gynnyrch BBC Cymru yn y Saesneg. Gyda diflaniad ITV Cymru i bob pwrpas ar wahân i newyddion, nid oes gan y mwyafrif o’n dinasyddion ni deledu amrywiol, cyffrous a gynhyrchir ar eu cyfer. At hynny, rydym yn wynebu symudiad i radio digidol a dim sicrwydd hyd yma y bydd pob rhan o Gymru yn derbyn Radio Cymru a Radio Wales.
Siom ynte gwarth yw hyn? A faint o fai sydd ar wleidyddion ein bod wedi dod i’r fath stad? Yn sicr ni allwn barhau fel hyn. Rydym ni fel plaid yn credu yn gryf yn ról darlledu yn ein diwylliant. Mae mwy i ddiwylliant Cymru na’r Cynulliad a Chynghrair Magners. Ond, wrth gwrs, rhaid i ni fod yn hynod ofalus hefyd i beidio â rhoi darlledu yn drwm o dan ddylanwad gwleidyddion – boed yn San Steffan neu Fae Caerdydd.
Ac eto, gwario ein harian ni mae’r darlledwyr cyhoeddus. Ac mae’r darlledwyr masnachol yn gwneud elw o adnodd cyhoeddus, sef y sbectrwm digidol. Felly beth yw dyfodol darlledu yng Nghymru a sut mae sicrhau’r lefel priodol o atebolrwydd democrataidd drosto? Credaf mai swyddogaeth gwleidyddion yw sicrhau’r hinsawdd a’r isadeiledd i’r darlledwyr. Rhaid i ni gael mynediad teg i’r sbectrwm digidol. Rhaid sicrhau fod cymunedau, rhanbarthau a gwledydd Prydain yn cael cyfran deg o’r arian a’r dalent ddarlledu. Rhaid i ni fel gwleidyddion bennu’r pris a delir am ddefnyddio’r sbectrwm digidol gan ddarlledwyr masnachol, pris a all fod yn arian neu’n ddyletswydd i ddarlledu rhaglenni penodol at bwrpas cyhoeddus. Rhaid i ni ddiogelu plant a buddiannau grwpiau bregus. Ac yma yng Nghymru, rhaid i ni weld mwy o gyd-dynnu rhwng dyheadau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg a chenadwri S4C.
Nid oes ról i wleidyddion benderfynu ar raglenni unigol neu’u cynnwys ond mae diddordeb y cyhoedd i’w warchod yn y rhychwant o raglenni a’u cydbwysedd. Felly, mae Plaid Cymru’n parhau i gredu fod gan yr egwyddor o ddarlledu cyhoeddus werth i’r genedl, er bod gennym ni bryder fod yr egwyddor honno yn mynd ar chwâl. Ac mae’n hen bryd i ni yng Nghymru ddechrau cymryd cyfrifoldeb dros faes sy’ mor allweddol-sef darlledu. Un mlynedd ar ddeg wedi sefydlu’r Cynulliad, mae ‘na ddigon o aeddfedrwydd yn ein cyfundrefn wleidyddol i wneud y gwaith sydd ei angen, i sicrhau cyfrifoldeb, atebolrwydd ac ie yr angen am scriwtini agored.
Dyma pam y byddwn ni fel plaid yn gweithio ar gynlluniau o nawr tan etholiadau’r Cynulliad i ddatganoli cyfrannau sylweddol o ddarlledu i Gymru – gam wrth gam – gan ddechrau yn ystod tymor y Cynulliad nesa’
Dydy ni ddim wedi’n hargyhoeddi fod buddiannau Cymru yn uchel gyda’r Llywodraeth bresennol yn Llundain.
Roedd trin S4C fel rhan o adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gan dorri’i chyllid o £2 filiwn yn ystod y flwyddyn yn torri’r fargen a wnaed wrth sefydlu’r sianel. Y fargen oedd i dynnu’r Gymraeg o’r ffau wleidyddol trwy sefydlu’i chyllid mewn deddf gwlad. Mae ‘na straeon am doriadau sylweddol pellach; ac mae methiant S4C neu Lywodraeth San Steffan i gynnal trafodaeth gyhoeddus gyda’r Cynulliad a phobl Cymru ynglyn a’r materion hyn yn dangos yn glir mai dyma’r amser i ddatganoli’r sianel, ynghyd a gwasnaethau darlledu eraill, i’r Cynulliad.
Ac o ddatganoli’r sianel, byddai’n gwbl angenrheidiol i ni gael setliad ariannol teg gan y Trysorlys, sy’n cydnabod pwysigrwydd y sianel fel darlledwr drwy gyfrwng y Gymraeg a’i ról arbennig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Cymru. Byddai angen i lywodraeth San Steffan ail ddatgan telerau sefydlu’r sianel, a’r cynllun ariannu gwreiddiol. Ac fe fydd hi’n allweddol bod hyn yn mynd law yn llaw a sicrhau setliad teg i Gyllideb Cymru gan y Trysorlys.
Roedd ffars y dadleuon a elwid yn rhai “prif weinidogol” gan y prif ddarlledwyr, gan gynnwys y BBC, yn ystod yr etholiad cyffredinol eleni yn brawf pellach fod y myrdd ddiwygiadau yn nulliau llywodraethu’r BBC wedi ynysu’r gorfforaeth o anghenion Cymru a’r Alban. Yn ystod ein trafodaethau gyda’r tri darlledwr, mi roedd hi’n gwbl amlwg nad oedden nhw yn ymwybodol o’r sefyllfa wleidyddol wahanol yn ein dwy wlad a sut yr oedd datganoli wedi newid yr hinsawdd a’r tirlyn gwleidyddol.
Dywedais yn gynharach fod darlledu yn yriant pwysig i economi Cymru. `Nawr fod bwriadau’r Glymblaid yn Llundain wedi dod i’r amlwg a ninnau yng Nghymru yn wynebu toriadau go iawn ym maes darlledu, mae’n bwysicach fyth i symud fel cenedl i sicrhau mwy o rym yn y maes pwysig hwn.
Cychwyn trafodaeth gyhoeddus ar y pethau hyn, dwi am ei wneud heddiw, felly mae croeso i chi ymateb, anghytuno neu gynnig mwy fel y ffordd ymlaen. Ond dyma beth sydd gennym mewn golwg ar gyfer tymor nesaf y Cynulliad ac mae gan y Blaid chwe chynnig i fynd a’r maen i’r wal
Rydym am i’r Cynulliad
1. Gosod cyllideb S4C a thrwy hynny sicrhau fod y corff yn gyfan gwbl atebol i bobl Cymru. Byddwn i’n awgrymu fod hyn yn cael ei sefydlu mewn Mesur Cynulliad fel y drefn a fu cyn yr ymosodiadau diweddar gan Lywodraeth Llundain. Mae hyn ar yr amod, wrth gwrs, fod y Trysorlys yn trosglwyddo’r arian yn llawn i ni a bod yna setliad mwy teg yn dod i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol gan y Trysorlys.
2. Gosod cylch gorchwyl a chenadwri i S4C, gan gynnwys goblygiad i hyrwyddo’r Gymraeg. Yn rhyfeddol ddigon, nid yw hwn yn ddyletswydd ar yr awdurdod ar hyn o bryd.
3. Sicrhau, yn y tymor byr, sefydlu ymddiriedolaeth BBC i Gymru a threfn sy’n caniatáu i’r BBC yng Nghymru wneud penderfyniadau ariannol, golygyddol a strategol ei hun ar y rhwydweithiau, o fewn trefn federal drwy wledydd Prydain. Mi fyddai hynny yn golygu trosglwyddo cyllideb ddigonol i ddarlledu yng Nghymru gan gofio fod ‘na ofyniad ar y BBC yng Nghymru i ddarlledu mewn dwy iaith. Mi fyddai hyn hefyd yn rhoi’r rhyddid i’r BBC yng Nghymru i ddefnyddio’r rhwydweithiau er mwyn gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymru yn fwy effeithiol. . Byddai’r Cynulliad yn penodi i’r Ymddiriedolaeth honno yn ogystal ag Awdurdod S4C a byrddau Ofcom. Nid yw Plaid Cymru yn gweld diben i Ofcom yn y tymor hir. Gyda llaw ni fyddai trosglwyddo cyllideb BBC Cymru i Gymru yn golygu na fyddai gan y BBC yn Llundain gyfrifoldeb i ddarparu rhaglenni rhwydwaith o Gymru; i adlewyrchu Cymru ar y rhwydwaith nac i sicrhau siar teg i Gymru o adnoddau’r rhwydwaith. Ac fe fyddwn yn galw am gytundeb a’r gorfforaeth er mwyn ffurfioli hynny.
4. Sefydlu trefniadau ffurfiol i scriwtineiddio S4C, y BBC a Channel 4 ac i gael llais a barn y Llywodraeth a’r Cynulliad ym materion darlledu.
5. Dyrannu tonfeddi FM yng Nghymru a sicrhau fod yr adnoddau yn cael eu darparu er mwyn sicrhau fod gorsafoedd Cymreig DAB ar gael i bawb.
6. Cael llais yn y ffordd mae’r drwydded ITV yn cael ei benderfynu yng Nghymru. Dydy’r mesur Economi Ddigidol bresennol ond yn cydnabod yr Alban a Lloegr fel ardaloedd trwyddedu ar hyn o bryd.
Byddai’r cynigion hyn, neu rai tebyg, yn sicrhau tri pheth:
Yn gyntaf fod gennym y cydlyniad gorau posib rhwng y gwariant cyhoeddus sylweddol ym maes darlledu ag amcanion llywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad ei hunan. Rwyf eisoes wedi trafod ein rhaglen diwygio economaidd a bydd y strategaeth iaith Gymraeg fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref hefyd yn fwy effeithiol pe bai darlledu a hyrwyddo’r iaith yn rhan o’r un pecyn.
Yn ail fe fydd yn cryfhau atebolrwydd y darlledwyr i’r cyhoedd. Ers sefydlu Ofcom a’r Ymddiriedolaeth newydd y BBC, dydy hi ddim yn glir o gwbl fod y cyrff darlledu yn ystyried barn ag anghenion y cyhoedd yn fwy. Byddai gosod darlledu Cymru – yn Gymraeg a Saesneg – fwyfwy o dan reolaeth ein Cynulliad yn gam priodol ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru.
Yn olaf, fe fyddai’n gwbl naturiol i ddilyn gwers a neges adroddiad Hargreaves. Ar y cyfan, mae angen strwythur ystwyth sydd yn medru ymateb yn gynt i ddiwydiant sydd yn newid yn gyflym iawn. Nid oes yr un Llywodraeth yn rhagori am fod yn ystwyth, ond dwi’n credu’n gryf fod Llywodraeth Cymru yn lle llawer mwy priodol na San Steffan i geisio ymateb i’r diwydiant hwn o safbwynt Cymru.
Dwi wedi delio efo dyfodol darlledu yng Nghymru heddiw ac yn agor trafodaeth gyhoeddus ar hynny. Un peth arall sy’n rhaid i mi ei wneud yn glir fodd bynnag ydi’r angen am sicrhau adnoddau a’r arian angenrheidiol ar gyfer darlledu drwy gyfwng y Gymraeg, boed hynny ar y radio neu deledu. Dydy’r ffaith fod gennym ni S4C a Radio Cymru a chyfres o orsafoedd radio lleol sydd yn darlledu o bryd i’w gilydd yn y Gymraeg ddim yn ddigon. Mae’n rhaid i safon y rhaglenni hynny fod cystal os nad gwell na safon y rhai sy’n cael eu darlledu drwy gyfrwng y Saesneg o gofio fod y gystadleuaeth mor ffyrnig.
A’r dasg anoddaf efallai – mae’n rhaid iddyn nhw ehangu eu hapêl. Nid ydw i’n mynd i fentro cynnig sut mae gwneud hynny – mae hynny’n fater i’r darlledwyr. Ond gan fod BBC Cymru ar hyn o bryd yn adolygu eu gwasanaethau nhw ar gyfer y dyfodol ac wrth i S4C roi ystyriaeth i’w strategaeth hwythau – mae yna gyfrifoldeb arnom ni, gynulleidfaoedd Cymru i fod yn rhan o’r drafodaeth ac mae yna gyfrifoldeb ar y darlledwyr i wrando.
Gan fod yr oes ddigidol wedi esgor ar fyd sy’n llawer mwy cystadleuol yn y byd darlledu, bydd yn rhaid i’r cyfryngau cyfrwng Cymraeg ymladd fwyfwy am wylwyr a gwrandawyr. Ac nid oes modd gwneud hynny heb adnoddau sy’n sicrhau’r gefnogaeth olygyddol a thechnegol gorau bosibl.
O safbwynt y Gymraeg, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn deall pa mor allweddol yw’r gwasanaethau yma yng nghyd-destun dyfodol yr iaith. Wrth i Alun Ffred fwrw ati i lunio strategaeth newydd i’r iaith – er mwyn ceisio cynyddu defnydd yr iaith ac i’w gwarchod hi fel iaith gymunedol – mae’r cyfryngau Cymraeg yn mynd i barhau i chwarae rol allweddol yn y gwaith pwysig hynny.
Heddiw, yr hyn rydw i yn ei ddweud yw bod yn rhaid i ddatganoli darlledu fod yn rhan o’r drafodaeth ehangach er mwyn sicrhau’r gwasanaethau gorau posib i bobl a chymunedau Cymru. Mae’n bryd i ni gymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth – a thrwy hynny sicrhau atebolrwydd i gynulleidfaoedd a threthdalwyr Cymru.
Diolch i chi am wrando a gobeithio y cawn ni drafodaeth adeiladol ar bwnc sy mor bwysig i ni yng Nghymru.







Tweet This
Share on Facebook
Digg This
Bookmark
Stumble
12 Comments
Thank goodness for Google Translate … and I didn’t think I would ever say the words …
… but thank goodness for Rupert Murdoch’s Sky Television.
If Mr Jones, the Jones & Jones WAG political partnership), had his way P.S.B. would eventually become synonymous, in Wales, not with Public Service Broadcasting but with Political Service Broadcasting, or might it further morph into Plaid Service Broadcasting ?
No thank you Mr Jones, though I can imagine your wilder supporters salivating at the thought of pushing their fingers through the pie crust into a very sticky opportunity, I prefer the less than perfect BBC with its less than perfect BBC Trust to your vision of broadcasting.
“Thank goodness for Google Translate … and I didn’t think I would ever say the words …”
Yes, how dare the Deputy First Minister of WALES, write an article in WELSH about WELSH broadcasting.
Your words Mr Warner not mine …
Google translate is a fine enabling tool, imperfect but good enough to get the general idea of what foreign bloggers are writing about during these difficult socio-economic times.
… I was in fact referring to Mr Jones and chums, I presume you are a chum, wanting control over broadcasting in Wales, in particular through the BBC. Politicians in broadcasting is much like putting a rattler in a lucky dip, you are in for an unpleasant surprise.
The question of S4C is not a complex issue, Westminster should give the budget to the Assembly as an identifiable block grant, the taxpayers could then have the last word, simple …
Of course John Tyler is perfectly happy for the ‘wider supporters’ of the British govt in London to push any amount of fingers through any amount of pie crusts. The BBC of course being under the control of the British govt’s Orwellian sounding ‘Department of Culture’. But the idea that the Welsh Government might actually want to play a role in any way in public broadcasting in Wales apparently fills him with horror. Prompting him to make all kinds of bizzarre and ludicrous assertions!
Of course this should come as no surprise as for people like John Tyler, it’s clear that the very idea that the Welsh – or our elected representatives – should be given any say over anything whatsoever in our own country is an anathema! John Tyler is clearly of the view that the Welsh are incapable of undertaking any task of any kind. Just why anyone should take such a dim view of the abilities of the people of any nation escapes me!
“The question of S4C is not a complex issue, Westminster should give the budget to the Assembly as an identifiable block grant, the taxpayers could then have the last word, simple …”
John, I think you would find that ministers in the Welsh Government would wish it were that simple. However, if you assume responsibility for funding broadcasting, you also assume responsibility for delivering it. S4/C is not alone in having to deal with issues of engagement. ITV1 Wales is very much in the same boat as S4/C, yet the Welsh language channel has come in for the most stick over viewing figures.
This is partly because what constitutes “0 viewers” is highly misleading. I am trying to get to the bottom of when a programme is said to have 0 viewers. They either stop counting at 30,000 or 50,000 viewers. Now, given that some programmes may receive considerably less than either of those two figures, conversely, other programmes may receive considerably more than the derisory 0.
As it has been pointed out elsewhere, 30,000 would be just under an average day’s readership for the Western Mail. And while newspapers clearly don’t fall under the broadcasting remit (and heaven forfend that they ever will), you can see that any Welsh Government with responsibilities in this area is facing far wider problems of engagement. Addressing that costs money. Money we all know we don’t have. That means redesigning budgets and that, of course, means arguments.
@Duncan:
Barb operate on a sample size of 5,100 housholds in each “viewing region”. So they take 5100 houses in Wales (say, BBC region, S4C region), and see what they watch. If those 5100 (out of 3 million) are watching Eastenders, then by the sample there will be 0 figures for S4C during that time. Which is … b*****s, frankly. Where are the 5100 homes? What is the spread, North, South, West, East, Welsh first lang, English first lang, bilingual, what? Unless they also publish the languages of those houses, the “zero people watching s4c” is meaningless, even statistically.
Mr Higgitt, one persons complex issue might be another persons simple explanation, for example … In today’s Western Mail David Donovan (Bectu official for Wales) was reported as saying …
“S4C has lost its way and lost its audience. They have done this by putting quantity before quality. It all began when [former chief executive] Huw Jones decided to increase the number of hours they produce threefold.”
… could this be true ? If it is true there is a simple solution in the offing.
On a different tack, S4C might become part of “Education” with a “broadcasting/entertainment” brief, at the moment we have in Wales a minority of children being taught through the medium of Welsh, whilst the majority of children are floating through education with only the minimum of Welsh language education; S4C could be used in every school, every day, to stimulate and encourage the children towards learning Welsh. Of course, this idea might be silly, it does depend on what we want of a Welsh language television channel.
Was not one of the aims of S4C to further the use of Welsh throughout society ?
Mr Richards …
… I refer you to Professor Dylan Jones-Evans.
Personally i like the idea of S4C being used more to teach Welsh. If I’d had a tool like that in school I might have actually paid attention in Welsh lessons…
Personally I watch S4C for the cricket and the rugby with the sound off… but that’s just me.
John,
I think we can all safely start from the point of view that S4/C is about to undergo a fairly profound reorganisation, which most of us suspect/expect will impact on what it offers.
This may surprise, but I am absolutely with you in using the channel to further the teaching of Welsh. In reality, it should be a primary purpose. I think your idea of using it in schools is an excellent one (perhaps it already is – anybody out there know?).
Mae pawb yn meddwl bod Hargreaves a’r atebion dydy hyn ddim yn wir Syr.Adrodiad resymol ond cyffredin i fyd digidol.
Hefyd beth am penodu pobol o brofiad o’r cyn WDA efallai fe fydd hyn yn ormod! i’r wleidydd. Mae’r byd busnes yn edmygu gwaith a wnaeth y WDA yn y 90au – beth am ofyn pam ?
Mae eich cynghorwyr busnes heb brofiad o fyd datblygy economaidd (WDA, English Parnerships ac ati) a llwyddiant o arwain Tim a gwethio i wleidyddion a gwasanaethu busnes- ac mae Andrew Davies wedi gweld hyn o weithio gyda’r gwasanaeth sifil yn y Cynulliad -Ond yn hwyr…
Beth am newid!
If you watch Wales play rugby with Welsh language commentators and compare it to the same game with English language commentators, you have in a nutshell, an example of how a Welsh Broadcasting Corporation would serve our nation far better than the BBC.
The Welsh version is animated, full of enthusiasm and infectious spirit. The English language counterpart is dull and sapped of life in comparison.
Has that something to do with the nature of the language itself? I don’t think so. In the British / English language media the is an unspoken rule that you can’t be too pro-Welsh. Perhaps because it could be considered aniti-English?.
But it’s OK to be pro-English, in English, or course.
A WBC would allow us to be Welsh in both languages and raise the hwyl for all.
Roedd yn hwyr glas cael erthygl yn Gymraeg a does dim ond gobeithio mai’r cyntaf o lawer oedd hwn.
Diolch i Ieuan Wyn am ei weledigaeth