Amser i ddefro i Gymru

Bubble — By Daran Hill on August 5, 2010 6:59 am

Gwlad wedi ei rannu’n 1997: a fydd canlyniad 2011 yn glirach?

FEL ARDDEGWR ifanc iawn, y gwasanaethais fel Trefnydd Cenedlaethol yr ymgyrch Ie dros Gymru. Mi roedd yn borfiad iachusol, un na’i fyth ailadrodd. Gall eraill yn yr ystafell hon parhau a’r baton honno.

Cefais fy ngofyn heddi’ i drafod ennill ymgyrch referendwm. Mae’n gwestiwn y gofynnwyd yn rheolaidd imi dros y misoedd diwethaf. Does gan neb ateb pendant – wedi’r cyfan ond 51% o referenda a gyflwynir gan unrhyw lywodraeth sy’n diweddu gyda chanlyniad positif.

Er dyma ble rydym ni heddiw. Ac er mwyn symud ymlaen i’r dyfodol mae angen i ni ddysgu o lwyddianau a chamgymeriadau’r gorffennol.

Y peth cyntaf sydd angen ei danlinellu yw bod pobl yn ateb cwestiynau eu hunain pan ydynt yn bwrw pleidlais mewn referendwm. Roedd 1997 cymaint am gadarnhau bodolaeth Cymru fodern a oedd am greu sefydliad gwleidyddol newydd. Roedd hefyd yn gadarnhad o bologrwydd y newydd etholedig llywodraeth Lafur. Yn Ie dros Gymru, cyllidom awyren i hedfan dros Dde Cymru gyda’r faner ‘Pleidleisiwch Ie, Pleidleisiwch Blair’ yn cyhwfan yn y gwynt. Ni ddewisiwyd y geiriau hyn gan fod “datganoli” neu “referendwm” yn rhy hir i ffitio ar y faner. Bydd hinsawdd gwleidyddol y cyfnod pan gyflwynir y cwestiwn yr un mor bwysig i sicrhau llwyddiant ag unrhyw ymgyrch er mwyn esbonio
‘subtleties’ y cynnig.

Ar ochr negyddol y ddadl, nid yw’r rheiny a gwrthwynebodd sefydlu datganoli yn y lle cyntaf neu ei ehangu yn awr yn rhy ffyslyd am y ddadleuon y defnyddiant chwaith. Yr un a ddefnyddiant mwyaf aml ar hyn o bryd yw y byddai pleidleisio dros ehangu pwerau deddfwriaethol y Cynulliad yn gam pellach ar y “llwybr llithrig” at annibyniaeth. Nonsens llwyr. Y gwir ddadl y hoffent ailfyw yw’r un dros fodolaeth y Cynulliad yn y man cyntaf. Yr un agwedd sy’n uno yr ymgyrch Na nawr a gwnaeth tair mlynedd ar ddeg yn ôl sef dyhead i waredu’r Cynulliad Cenedlaethol. Nid oes tir cyffredin arall ganddynt heblaw y dyhead hwn i rwystro’r Cynulliad rhag cynyddu pwerau deddfwriaethol, ond hefyd i leihau pwerau yn y dyfodol a gweithio gyda’i gilydd er mwyn cael gwared o’r Cynulliad fel sefydliad.

Ond mae’n bwysig i gael gwrthwynebwyr mewn ymgyrch referendwm a dwi’n croesawu bodolaeth Gwir Cymru. Roedd yn broblem ddybryd i ddemocratiaeth nol yn 1997 yn y misoedd cyntaf, nad oedd ymgyrch Na mewn bodolaeth. Roedd rheoli cytbwysedd darlledu yn gymaint o ffactor i sefydliad Dwedwch Na ag unrhywbeth arall.

Mae gwleidyddiaeth wedi symud ymlaen ers 1997. Rydym mewn byd gwahanol nawr, ble ceir cefnogaeth i bwerau ychwanegol i’r Cynulliad o’r pedair blaid yng Nghymru. Dwi’n derbyn bod y Ceidwadwyr am gael bleidlais rhydd ar y mater ac o hyd yn rhanedig iawn. Dwi’n derbyn bod Llafur yn rhanedig hefyd o hyd, ac y byddai rhyw rhai yn y blaid yn bleidleisio ac yn ymgyrchu yn erbyn. Dyw hyn ddim yn fy mhryderu.

Beth sydd yn fy mhryderu yw bod holl systemau gwleidyddol y prif bleidiau yn coleddu rhagor o bwerau. Roedd y ddadl elitaidd yn smear effeithiol yn 1997, ac fe fydd eto pan ddaw y refferendwm nesaf. Bydd rhaid i ni fod yn barod i wynebu hynny a’i drechu.

Wrth feddwl yn ôl at 1997, y peth dwi’n credu cawsom yn gywir iawn oedd ein bod yn medru moboleiddio’n gyflym. Roedd embryo Ie dros Gymru yn barod erbyn Ionawr a fe gafwyd ei lawnsio’n swyddogol yn syth wedi’r Etholiad Cyffredinol ym mis Mai. Gwnaethom ni ffocysu ar grwpiau lleol a charfanau o’r gymdeithas er mwyn taro deuddeg megis ‘Athrawon dros Gymru’ a “Gweinidogion dros Gymru”. Cwrddais Carwyn am y tro cyntaf bryd hynny – roedd ei egni a’i allu wrth gadeirio ymgyrch Penybont dros Gymru wedi cyfrannu at fuddugoliaeth glir – a dwi’n gwybod y byddai yn dod a’r un sgiliau hynny i’r bwrdd pan ddaw’r referendwm y flwyddyn nesaf.

Blwyddyn nesaf? Mae’n teimlo’n amser maith i ffwrdd ond ydy? Wel dyw e ddim. Mae’r rheiny sy’n cydlynu’r ymgyrch o’r ochr Ie y tro ‘ma wedi cael y mantais o amser nad oedd gennym yn 1997. Ond ma’r cloc yn tician a mae pawb angen cynyddu ger.

Gadewch imi ofyn i bawb yn yr ystafell hon cwestiwn syml: beth ydych chi wedi ei wneud yn y chwe mis diwethaf i helpu sicrhau canlyniad positif i’r referendwm disgwyliedig? I’r rhan fwyaf ohonom does bosib mae’r ateb fyddai “Dim digon” neu fyddem wedi medru gweld mwy o ymgyrch ar droed.
Nol yn 1997 ymladdodd John Major ymgyrch yn galw ar bobl Gymru, “Deffrwch, Deffrwch” ac amddiffynwch y cyfansoddiad. Gwelai datganoli fel diwedd y DU. Yn amlwg nid oedd, wrth gwrs. Ond rhybuddiodd ni i beidio cerdded yn ddiarwybod i drychineb.

Arhosodd ei eiriau gyda mi am ddwy reswm. Yn gyntaf, oherwydd byddai’r rheiny sy’n erbyn newid cyfansoddiadol yn fodlon adrodd unrhyw gelwydd tro ar ôl tro er mwyn ofnu’r etholwyr i ymwrthod â newid. Maent wedi gwneud hyn o’r blaen, ac fe wnawn nhw hyn eto.

Yn ail, cofiwch y geiriau “Deffrwch, Deffrwch”. Mae’n nawr yn amser i ni ddefro hefyd. I fod yn effro i’r ffaith bod angen sefydlu ymgyrch go iawn. I fod yn effro i’r ffaith bod yr ymgyrch Na wedi ei sefydlu ac yn lledaenu celwyddau yn barod. I fod yn effro i’r ffaith ein bod angen cyd-dynnu ar ochr cywir y ddadl.

Ac i ddefro i’r ffaith nad yw’r canlyniad yn un sicr: ni fydd y referendwm hwn yn bositif heb unrhyw ymdrech.

Gadewch i’r Eisteddfod ym Mlaenau Gwent fod yn un sy’n cofleidio traddodiad radical gwleidyddol Cymru. Gadewch iddi fod yn Eisteddfod ble rydym oll yn dihuno ac yn brwydro dros Gymru.

Tags: , , , ,

0 Comments

You can be the first one to leave a comment.

Leave a Comment